Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Tachwedd 2022
Amser:
09.01 -
09.26
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y byddai hi'n ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog gan fod y Prif Weinidog yn anhwylus.
Hefyd, tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 15 Tachwedd -
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru (30 munud)
Dydd Mawrth 22 Tachwedd -
· Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022 (5 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon (45 munud) - Wedi’i ohirio o 8 Tachwedd
· Cyfnod Pleidleisio (5 munud)
·
Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Datblygu Clystyrau Technolegol yng Nghymru - cynhyrchu isotopau
radio meddygol ac arbenigedd meddygaeth niwclear (30
munud) – wedi'i
ohirio tan 13 Rhagfyr
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref a Rhagolygon Ariannol ac Economaidd Llywodraeth y DU (30 munud) – wedi'i ohirio o 8 Tachwedd
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 30 Tachwedd 2022 –
4 Deddfwriaeth
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Trafododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth a anfonwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy’n cynnig y dylai Llywodraeth Cymru osod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio yn sgil yr hyn y mae’r Pwyllgor yn ei ystyried fel diffygion yn y Memorandwm presennol.
Cadarnhaodd y Trefnydd fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wrthi’n trafod yr ohebiaeth ac y bydd yn ymateb i’r Pwyllgor yn fuan. Bydd y Trefnydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Busnes cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael, gan gynnwys a oes modd newid y dyddiad cau presennol ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer pwyllgorau.
4.2 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn
Trafododd y Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Deisebau am ddadl ar ddeiseb P-06-1302 - Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a gafodd 20,889 o lofnodion, a chytunodd i drefnu dadl 30 munud o hyd ddydd Mercher 30 Tachwedd.
6 Amserlen y pwyllgorau
6.1 Llythyr gan Fforwm y Cadeiryddion - cais i newid dyddiadau cyfarfodydd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan Fforwm y Cadeiryddion i newid y slot cyfarfod a ddyrannwyd iddo, o ddydd Iau olaf pob hanner tymor i'r bore Llun olaf sydd ar gael ym mhob hanner tymor (pan nad oes gwrthdaro gyda slot naill ai'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol neu Gomisiwn y Senedd).
7 Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy
7.1 Papur ar yr adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur a chytunodd ar y dull arfaethedig a’r amserlen ar gyfer ei adolygiad o ddarpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys y dylai’r ymarfer hwn ystyried: y trefniadau prawf dros dro presennol ar gyfer absenoldeb rhiant; a’r posibilrwydd o ymestyn y trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy i salwch tymor hir a chyfrifoldebau gofalu eraill. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Aelodau ac i ofyn am farn Aelodau presennol a chyn-Aelodau sydd wedi defnyddio pleidleisio drwy ddirprwy yn ystod y cyfnod prawf.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried papur arall sy'n ymdrin â diffiniadau posib o salwch hirdymor a chyfrifoldebau gofalu cyn dechrau'r cyfnod ymgynghori. Nododd Darren Millar ei wrthwynebiad i ddefnyddio pleidleisio drwy ddirprwy.
7 Unrhyw faterion eraill
Canllawiau ar Achosion Rhithwir a Hybrid
Nododd y Pwyllgor Busnes, ar ôl ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion, fod y canllawiau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes ar 27 Medi bellach wedi eu cyhoeddi'n llawn i’r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17.
Cyfarfod ar 15 Tachwedd
Fe wnaeth y Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes am y trefniadau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf, a fydd yn cynnwys sesiwn gyhoeddus i drafod gwaith presennol y Pwyllgor ynghylch Diwygio’r Senedd.